BBC Cymru Fyw

Canslo ymweliad y Frenhines

Published
image captionCafodd cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.
Ni fydd y Frenhines yn ymweld ag Abertawe ddydd Sadwrn oherwydd salwch.
Roedd y Frenhines i fod i gyflwyno cennin i aelodau o'r Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol mewn seremoni draddodiadol.
Mae'r cyflwyniad fel arfer yn digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond penderfynwyd ei chynnal ddydd Sadwrn eleni.
Roedd yr ymweliad i fod i ddilyn ymweliad y Tywysog Charles a Duges Cernyw i dde Cymru ddydd Gwener.
Ond nos Wener, daeth y cyhoeddiad gan Balas Buckingham ei bod wedi cael cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.
Deellir ei bod yn dioddef o anhwylder ar ei stumog.

Straeon perthnasol

  • Tywysog yn ymweld â Chymru