Apêl wedi damwain farwol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi i ddyn 20 oed farw ar ôl damwain yn oriau mân ddydd Gwener.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 3.40am ar Stryd Fawr Pendarren, Merthyr Tudful.
Fe wnaeth car Rover glas adael y ffordd a gwrthdaro â choeden.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol