Penwythnos cymysg i'r rhanbarthau
- Cyhoeddwyd

Scarlets 14-13 Caeredin
Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth o drwch blewyn yn y Pro 12, yn rhannol oherwydd tacl allweddol gan Owen Williams yn y munudau olaf ar ôl i Hamish Watson fylchu.
Cic gosb Williams roddodd y Scarlets ar y blaen ar y diwedd, a hynny wedi cais Andy Fenby a dwy gic gosb Aled Thomas.
Dougie Fife sgoriodd gais Caeredin, gyda Harry Leonard yn trosi ac yn llwyddo gyda dwy gic gosb.
Munster 13-13 Gweilch
Cafodd Munster a'r Gweilch ddau bwynt yr un wedi'r ornest galed hon.
Roedden nhw'n gyfartal 6-6 ar yr egwyl, diolch i ddwy gic gosb yr un i Ronan O'Gara a Matthew Morgan.
Cafodd Damien Varley gais i Munster wedi 44 munud, gyda O'Gara yn trosi, ac yna fe groesodd Jonathan Thomas am gais wedi 51 munud, gyda Morgan yn trosi.
Mae'r Gweilch yn bumed yn y tabl, un pwynt y tu ôl i'r Scarlets.
Dreigiau Casnewydd Gwent 19-26 Leinster
Wedi dau gais gan Sean Cronin yn y 10 munud agoriadol roedd y Gwyddelod yn rheoli o'r dechrau, a chafwyd dau gais arall gan yr asgellwr Dave Kearney.
Ciciodd Ian Madigan dri throsiad.
Cafodd y Dreigiau bwynt bonws wedi ceisiau gan Ieuan a Steffan Jones.
Llwyddodd Steffan Jones hefyd gyda dwy gic gosb a chic adlam.
Glasgow 29-13 Gleision Caerdydd
Sgoriwyd ceisiau Glasgow gan Nikola Matawalu (ddwywaith), Peter Horne a Duncan Weir.
Sgoriodd y maswr Weir 14 pwynt i gyd gyda thri throsiad a chic gosb.
Josh Navidi sgoriodd unig gais y Gleision, gyda throed Rhys Patchell yn sicrhau'r pwyntiau eraill.