Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Pwy fydd yn codi Cwpan Cymru eleni?

Hwlffordd 0-1 Y Seintiau Newydd

Mae'r deiliaid Seintiau Newydd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Bêl-droed Cymru ar ôl maeddu Hwlffordd nos Wener.

Matty Williams sgoriodd y gôl allweddol wedi 57 munud.

Ond gwnaed y dasg yn anoddach i'r Seintiau ar ôl i Sam Finley weld y cerdyn coch wedi 52 munud.

Cafodd gweddill y gemau yn rownd yr wyth olaf eu cynnal ddydd Sadwrn.

Bangor 1-0 Airbus UK Brychdyn;

Tre'r Fflint 0-2 Y Barri;

Caerfyrddin 2-3 Prestatyn.

Yn y rownd gyn-derfynol bydd Bangor yn wynebu Y Seintiau Newydd, ac fe fydd Y Barri a Phrestatyn yn herio'i gilydd.