Tân wedi ei gynnau'n fwriadol?
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi tân mewn ysgol uwchradd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Mae'r gwasanaethau brys yn credu y gallai'r tân mewn storfa yn Ysgol Uwchradd Caldicot, Sir Fynwy fod wedi ei gynnau'n fwriadol.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei alw am 5:50am, a llwyddwyd i ddiffodd y tân erbyn 7.00am.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol