Abertawe 1-0 Newcastle

  • Cyhoeddwyd

Gôl gyntaf Luke Moore yn y gynghrair y tymor hwn oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar y Liberty.

Mae ergyd yr eilydd Moore wedi 85 munud o lai na chwe llath yn codi'r Elyrch i'r seithfed safle, a hynny wythnos ar ôl ennill Cwpan Capital One.

Tarodd Newcastle y trawst ac fe wnaeth Michel Vorm gyfres o arbedion yn yr ail hanner.

Mae lle Abertawe yn uwchgynghrair Lloegr yn edrych yn ddiogel ar gyfer y tymor nesaf. Maen nhw wedi cyrraedd deugain pwynt, sy'n cael ei ystyried fel targed pwyntiau ar gyfer aros lan.

Mae'r clwb hefyd yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio i ehangu Stadiwm Liberty.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol