Uwchgynghrair Blue Square
- Published
Wrecsam 1-1 Alfreton
Mae Wrecsam yn parhau ar frig Uwchgynghrair Blue Square, ond ar wahaniaeth goliau yn unig ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Alfreton.
Y Dreigiau aeth ar y blaen wedi 8 munud gyda gôl gelfydd Kevin Thornton, ond yr ymwelwyr oedd yn meistroli yn y gêm hon, ac yn haeddiannol felly fe ddaeth Scott Boden â nhw'n gyfartal.
Hyde 0- 1 Casnewydd
Mae Casnewydd nawr wedi ennill pum gêm yn olynol, ar ôl i Christian Jolley ergydio i'r rhwyd o 25 llath wedi 10 munud.
Maen nhw wedi torri'r bwlch ar frig y gynghrair i dri phwynt.
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Chwefror 2013
- Published
- 12 Chwefror 2013
- Published
- 9 Chwefror 2013
- Published
- 19 Ionawr 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol