Colli'r gantores Sassie Rees
- Published
Bu farw'r gantores a'r gyflwynwraig Sassie Rees yn 97 oed.
Fe'i ganed yn Y Bermo yn 1916 a dechreuodd ganu pan yn wyth mlwydd oed yn y capeli ac mewn eisteddfodau.
Daeth i sylw'r BBC, ac fe gyflwynodd amryw raglenni fel 'Ar Lin Mam' a 'Jim Cro Crystyn'.
Casglodd a darlledodd dros 300 o ganeuon plant.
Roedd hi'n fam i'r actores a'r gantores Olwen Rees.