Y Frenhines yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.
Mae'r Frenhines wedi cael ei chymryd i ysbyty yn Llundain i gael ei hasesu am ei bod hi'n sâl gyda'r salwch stumog gastro-enteritis.
Mae disgwyl iddi fod yn yr ysbyty am ddeuddydd.
Roedd yn rhaid iddi ganslo ymweliad ag Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi am ei bod hi'n sâl.
Roedd i fod i gyflwyno cennin i aelodau o'r Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol mewn seremoni draddodiadol.
Roedd yr ymweliad i fod i ddilyn ymweliad y Tywysog Charles a Duges Cernyw i dde Cymru ddydd Gwener.
Ond nos Wener, daeth y cyhoeddiad gan Balas Buckingham ei bod wedi cael cyngor meddygol i beidio â theithio i dde Cymru.
Straeon perthnasol
- 1 Mawrth 2013