Mam a'i babi dau fis oed wedi eu hanafu
- Published
Mae mam a'i babi dau fis oed wedi eu hanafu yn ddifrifol ar ôl cael eu taro gan gar ym Mhort Talbot ddydd Sul.
Roedd y ddynes 40 yn cario ei phlentyn ar yr A48 Ffordd Baglan ychydig wedi 2.30pm.
Aed ar ddau i Ysbyty Treforys.
Dywed Heddlu'r De eu bod yn apelio am dystion i'r digwyddiad. Car Mercedes du oedd yn y gwrthdrawiad.
Aed a dau o bobl eraill i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Y gred yw mai nhw oedd gyrrwr a theithiwr y car.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 01792 456999 neu Taclo'r Tacle am 0800 555111.