Byrddau cyrff: 'Angen mwy o ferched'

  • Cyhoeddwyd
MenywFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu i'r holl gyrff sector cyhoeddus

Mae angen penodi mwy o ferched i fyrddau cyrff cyhoeddus, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae wedi gosod targed i fenywod gael eu penodi i o leiaf 40% o'r lleoedd ar fyrddau cyhoeddus.

Mae'n tynnu sylw at enghraifft Chwaraeon Cymru, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo chwaraeon sydd wedi ceisio apelio at ferched.

Dan arweiniad y cadeirydd Laura McAllister, aeth y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fwrdd Chwaraeon Cymru o wyth dyn ac un wraig i bump o ferched a naw o ddynion yn 2012.

Cysylltwyd gydag ymgeiswyr benywaidd posibl yn uniongyrchol a'u hannog i wneud cais, a newidiodd Chwaraeon Cymru eiriad eu deunydd cais i'w wneud yn fwy atyniadol i ferched.

Fe wnaeth nifer y merched sy'n gwneud cais i ymuno â'r bwrdd dreblu yn 2012 ar ôl y newidiadau.

'Gwrthdroi'r duedd'

Heriodd y Gweinidog Cydraddoldeb Jane Hutt y cyrff sector cyhoeddus, y pleidiau gwleidyddol a'r cyfryngau i chwarae eu rhan i gynyddu nifer y menywod a benodir i swyddi cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Ms Hutt: "Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod llai a llai o fenywod yn ymgymryd â swyddi cyhoeddus neu wleidyddol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi'r duedd hon, ond mae gan bawb rôl i'w chwarae i wella cynrychiolaeth menywod o ran penodiadau cyhoeddus - o'r cyrff sector cyhoeddus i'r Pleidiau gwleidyddol a'r cyfryngau.

"Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau y bydd o leiaf 40% o'r penodiadau i swyddi cyhoeddus yng Nghymru yn fenywod.

"Ond mae angen i bob sefydliad chwarae ei ran i'n helpu ni i gyflawni'r targed uchelgeisiol hwn".

Camau

Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu i'r holl gyrff sector cyhoeddus yn gofyn iddynt gymryd camau i gynyddu nifer y menywod a grwpiau eraill sy'n cael eu tangynrychioli ar eu Byrddau.

Gofynnwyd i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru gymryd y camau cychwynnol hyn:

  • Trafod y canfyddiadau arfer da a luniwyd gan Astudiaeth Achos Chwaraeon Cymru ynghyd â''u Bwrdd, a chytuno ar gynllun gweithredu i gynyddu amrywiaeth, gan gynnwys camau i'w cymryd yn y broses ymgeisio.
  • Cynnal gwerthusiad o gyfansoddiad y Bwrdd a nodi targedau uchelgeisiol i gynyddu nifer y menywod.
  • Paratoi adroddiad byr i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed erbyn diwedd Gorffennaf 2013.

Ychwanegodd Jane Hutt: "Rwy'n hyderus y gallwn gynyddu nifer y menywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir ar Fyrddau sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae hyn yn gofyn am ymrwymiad.

"Rydym am i bawb dynnu sylw at unrhyw lwyddiant a gafwyd fel y gallwn ysbrydoli menywod o bob cenhedlaeth i ymgymryd â'r rolau pwysig hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol