Y Frenhines yn mynd adre'
- Published
Mae'r Frenhines wedi mynd adre' ar ôl treulio ail ddiwrnod mewn ysbyty yn Llundain oherwydd salwch stumog.
Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Brenin Edward VII ddydd Sul.
Dywedodd Palas Buckingham fod y Frenhines, sy'n 86 oed, mewn hwyliau da.
Fe fydd ei dyletswyddau yr wythnos hon, gan gynnwys ymweliad â Rhufain, yn cael eu canslo neu eu gohirio.
Roedd rhaid iddi ganslo ymweliad ag Abertawe Ddydd Gŵyl Dewi.
Roedd i fod i gyflwyno cennin i aelodau Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mawrth 2013