Dedfryd ohiriedig i fam 29 oed
- Published
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd mam 29 oed o Wynedd ddedfryd ohiriedig ar ôl pledio'n euog i ddau gyhuddiad o ymosod ar ei babi pum wythnos oed.
Clywodd y llys fod 17 o gleisiau ar y babi nad oedden nhw'n ddamweiniol.
Cafodd y fam ddedfryd ohiriedig o flwyddyn a gorchymyn goruchwylio am ddwy flynedd.
Dywedodd y Barnwr Dafydd Hughes wrthi: "Dim ond chi sy'n gwybod sut y cafodd y babi'r cleisiau hyn ond, yn sicr, mi oedden nhw'n boenus ac wedi achosi llawer o ofid.
"Rydych chi wedi cynnig nifer o resymau pam nad oeddech chi'n medru ymdopi â'r gofal ac mae'n glir eich bod yn dioddef o iselder."
Roedd nifer o ffactorau yr un pryd, meddai, gan gynnwys diffyg cwsg, llai o egni a thrafferthion gofalu am y babi.
Plediodd y fam yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod, gan achosi niwed corfforol difrifol.