Trawiad y galon: 20 wythnos o garchar
- Published
Mae dyn 24 oed wedi ei garcharu am 20 wythnos wedi i ddyn gael trawiad y galon oherwydd ffrae.
Clywodd Ynadon Prestatyn fod Jonathan Sillett, 42 oed, wedi mynd yn anymwybodol pan oedd yn dadlau â Michael Gray.
Roedd Gray wedi bod yn gyrru'n afreolus ar gae ger cartref Mr Sillett ym Mhrestatyn ar Orffennaf 21 y llynedd.
Plediodd yn euog i gyhuddiad o ymddwyn yn fygythiol.
Clywodd y llys fod Mr Sillett wedi herio Gray awgrymodd y byddai'n ei daro.
O fewn eiliadau cwympodd Mr Sillett yn anymwybodol a bu farw'r un diwrnod.
Dywedodd y Barnwr Andrew Shaw: "Nid eich bwriad chi oedd achosi ei farwolaeth ond cyfrannodd yr hyn wnaethoch chi at hyn."
Roedd y sefyllfa, meddai, yn "ddwys ac yn ddychrynllyd".