Profi triniaeth newydd ar gyfer clust ludiog
- Published
Mae math newydd o driniaeth ar gyfer clust ludiog - yr achos mwya' cyffredin o broblemau clust ymhlith plant - yn cael ei brofi gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Pob blwyddyn mae tua 25,000 o blant yn gorfod cael llawdriniaeth i drin y cyflwr.
Ond nawr mae meddygon yn gobeithio y bydd y driniaeth newydd yn effeithiol ac yn lleihau'r angen ar gyfer llawdriniaeth.
Mae clust ludiog yn datblygu pan fo hylif yn casglu yn y glust ganol ac mae'n effeithio ar 80% o blant o dan bedair oed.
Mae'r cyflwr yn gwella ar ei ben ei hun yn y rhan fwyaf o achosion, ond dyw hynny ddim yn wir pob tro.
Pan fo symptomau'n parhau, mae'n gallu achosi problemau lleferydd, dysgu a datblygiad cymdeithasol.
Mewn nifer o achosion, mae hyn yn arwain at iselder, yn ogystal â phroblemau ymddygiad a diffyg canolbwyntio.
Steroid
Ar hyn o bryd, mae plant sydd â chlust ludiog yn cael cynnig teclynau clyw, neu lawdriniaeth i osod gromedau yn y glust i alluogi mwy o aer i deithio'n ôl ac ymlaen.
Mae 'na risg gyda'r ddau fath o driniaeth, sy'n gostus ac yn golygu nifer o ymweliadau ysbyty.
Mae'r driniaeth newydd - sy'n cael ei brofi wedi i Ysgol Feddygaeth Caerdydd dderbyn grant o £1.3 miliwn - yn defnyddio steroid sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i drin y fogfa, neu asthma.
Meddai'r Athro Chris Butler, arweinydd yr astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Mae clust ludiog yn gallu gwneud plant yn fyddar yn un o'r achosion mwya' cyffredin i blant gael llawdriniaeth yn y DU.
"Os bydd y steroid sy'n cael ei ddefnyddio'n aml i drin asthma mewn plant, yn profi'n llwyddiannus, yna byddwn yn gallu cynnig dewis newydd o driniaeth i rieni i wella ansawdd bywyd eu plentyn ac efallai osgoi'r angen am lawdriniaeth."
"Mae triniaeth o'r fath hefyd yn debygol o arwain at arbedion sylweddol i'r gwasanaeth iechyd."