Effaith toriadau ar ddwy ganolfan filwrol yng Nghymru
- Published
Mae disgwyl mwy o fanylion am ddyfodol dau safle milwrol yng Nghymru'n ddiweddarach.
Bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond yn amlinellu cynlluniau diweddara'r llywodraeth ar gyfer canolfannau'r fyddin yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.
Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Barics Cawdor, Breudeth yn Sir Benfro, cartref 14eg Catrawd y Signalau, arbenigwyr mewn offer rhyfel electronig.
Ond mae'n edrych yn fwy addawol i ganolfan yr awyrlu yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, gyda'r gobaith y bydd mwy o filwyr yn cael eu lleoli yno.
Yr haf diwetha' cafodd dau fataliwn y Cymry Brenhinol eu huno fel rhan o doriadau o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae disgwyl i filoedd o filwyr ddychwelyd o'r Almaen dros y blynyddoedd nesa' ac mae gweinidogion yn dweud ei bod yn amser da i adolygu canolfannau'r fyddin ar draws y DU.
Fe allai'r cyhoeddiad ddydd Mawrth gael effaith fawr ar 14eg Catrawd y Signalau, sydd wedi'u lleoli ger Tŷ Ddewi.
Mae 'na ddyfalu y gallai'r milwyr gael eu symud yn agosach at bencadlys y gatrawd yn Dorset.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Ionawr 2013
- Published
- 22 Ionawr 2013
- Published
- 5 Gorffennaf 2012
- Published
- 17 Mai 2012