Ymchwiliad wedi tân sylweddol
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn tân sylweddol yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yn oriau mân fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ym Mynydd Isa' am 1:40am fore Mawrth, ac roedd sied a nifer o adeiladau yn llawn coed tân eisoes yn wenfflam.
Bu diffoddwyr o'r Wyddgrug a Bwcle yn ceisio taclo'r fflamau ar y safle, a bu'n rhaid gyrru tri pheiriant tân i'r safle.
Bydd ymchwiliad pellach o'r safle yn digwydd fore Mercher.