Cytundeb newydd i fewnwr y Gweilch
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae mewnwr rhyngwladol Cymru Rhys Webb wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch.
Bydd y cytundeb newydd yn cadw Webb gyda'r rhanbarth am dair blynedd arall tan 2016.
Mae'r chwaraewr 24 oed wedi ennill tri chap i Gymru gan chwarae yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf.
Roedd hefyd yn aelod o garfan fuddugol Cymru ym Mhencampwriaeth 7-bob-ochr y byd yn 2009.
Dywedodd Webb: "Rwyf wrth fy modd.
"Mae'n wych medru ymrwymo i dair blynedd arall gyda fy rhanbarth cartref. Mae yna awyrgylch gwych yma - yr unig le yr wyf am chwarae rygbi."