Carchar am dwyllo elusen
- Published
Mae dyn wedi cael ei garcharu am dair blynedd wedi iddo gyfadde' twyllo.
Roedd Chris O'Neill wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol ar ôl gamblo arian a fwriadwyd ar gyfer milwyr a anafwyd.
Roedd e wedi cael grant o £125,000 gan Lywodraeth Cymru i redeg gwesty ar gyfer cyn-filwyr yn Llandudno.
Honnodd O'Neill ei fod wedi bod yn aelod o'r Heddlu Milwrol Brenhinol am bum mlynedd, ond dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei fod wedi treulio dau gyfnod yn y Fyddin, yn 1977-78 a 1980-81.
Rhoddodd dystiolaeth i sawl pwyllgor yn y Senedd a'r Cynulliad ynghylch Anhwylder Straen Wedi Trawma.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Cyngor Conwy wedi ad-dalu'r £125,000 a bod swyddogion wedi gweithio gyda'r cyngor i gryfhau gweithdrefnau.
'Twyll maleisus'
Dywedodd Iwan Davies, prif weithredwr Cyngor Conwy:
"Mae'r cyngor wedi delio yn ddifrifol gyda'r mater; mae'r amgylchiadau wedi'u hymchwilio'n llawn trwy archwiliad mewnol trwyadl ac mae archwilwyr annibynnol wedi cynnal adolygiad manwl o'n trefniadau ar gyfer rheoli grantiau."
Wrth ddedfrydu O'Neill ddydd Mawrth, dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon fod y weithred yn enghraifft o "dwyll maleisus o'r pwrs cyhoeddus".
Dywedodd Gareth Preston, o Wasanaeth Erlyn y Goron:
"Roedd troseddau Christopher O'Neill yn dangos diffyg parch at y ffydd yr oedd gan nifer o bobl ynddo.
"Fe dwyllodd drwy gamddefnyddio arian cyhoeddus prin a oedd i fod i helpu rhan hynod fregus o gymdeithas."
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Chwefror 2013