Cynllun gwerth £8 miliwn yn dechrau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith i greu gwell cysylltiadau rhwng canol dinas Abertawe a'r glannau'n dechrau ddydd Mercher.
Nod y prosiect gwerth £8 miliwn yw gwella golwg porth allweddol i ganol y ddinas rhwng Ffordd y Dywysoges a'r Strand a denu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.
Mae'n cynnwys palmentydd sy'n fwy llydan, cyfleusterau gwell i feicwyr a cherddwyr, plannu coed, gosod meinciau a chelf gyhoeddus.
Bydd technoleg goleuadau traffig ar hyd y ffordd yn cael eu gwella hefyd i gynnal llif y traffig.
Bydd y cam cyntaf yn para tan ddiwedd mis Tachwedd cyn dechrau ail gam rhwng pontydd afon Tawe a'r Strand ar amserlen debyg y flwyddyn nesaf.
Gwybodaeth
Dywedodd y cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: "Trefnwyd y gwaith i sicrhau cyn lleied â phosib o anghyfleustra i fodurwyr a cherddwyr yn ystod y gwaith adeiladu.
"Bydd rhoi lonydd cul ar waith yn caniatáu i waith barhau yn ystod y dydd, gan sicrhau nad effeithir ar y cyhoedd sy'n teithio.
"Bydd gwaith lle bydd angen cau lôn neu'r ffordd gerbydau yn cael ei wneud gyda'r nos, pan ddaw gorchmynion traffig dros dro a hysbysebwyd hefyd i rym.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl yn rheolaidd yn ystod y prosiect drwy bapurau newydd a gorsafoedd radio, cyfryngau cymdeithasol a gwefan benodol."
Bydd gwaith cynnar i wella'r ffordd a phalmentydd ar ran o Stryd Adelaide yn dechrau cyn bo hir a bydd angen dargyfeirio traffig dros dro o 6 Mawrth.
Yn sgil prosiect y rhodfa, gwneir gwelliannau ar hyd Stryd Adelaide, hyd at Amgueddfa Abertawe yn nes ymlaen yn y cynllun.
Bydd Stryd York a Lôn Bath yn cael eu cau i draffig o'r un diwrnod i leihau nifer y lleoedd lle gall cerbydau ymuno â'r brif ffordd, a'i gadael. Bydd hyn yn helpu llif y traffig ar hyd Parêd y Cei a Heol Victoria.
Mae'r rhodfa'n un o sawl prosiect a ariennir gan raglen Ardal Adfywio Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chyngor Abertawe i wella Canol Dinas Abertawe.
Straeon perthnasol
- 20 Medi 2012
- 11 Rhagfyr 2008