Cyngor yn penderfynu cau ysgol gynradd
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Powys wedi penderfynu cau ysgol gynradd yn y sir.
Ddydd Mawrth penderfynodd y cabinet gymeradwyo argymhelliad i gau Ysgol Bugeildy a bwrw 'mlaen gyda chynllun i greu ysgol ffederal rhwng Ysgol Llanfair Llythynwg ac Ysgol Dyffryn Maesyfed, ac Ysgol Ffederal rhwng Ysgol Hwytyn ac Ysgol Llanandras yn Sir Faesyfed.
Bu tua 50 o brotestwyr y tu allan i Bencadlys y Cyngor Sir yn Llandrindod cyn dechrau'r cyfarfod.
Dywedodd adroddiad aeth gerbron y cabinet fod "bron bob un " o'r 114 llythyr neu e-bost a dderbyniodd y cyngor ynghylch y cynllun i gau'r ysgol yn gwrthwynebu.
Ychwanegodd yr adroddiad fod "y gymuned yn bryderus iawn ynghylch y posibilrwydd o gau'r ysgol a bod gan y cyngor benderfyniad anodd iawn i'w wneud".
Gwerth am arian
Dywed yr adroddiad fod 34 o blant ar gofrestr yr ysgol ar hyn o bryd, sy'n golygu bod 37% o leoedd gwag yno.
Mae'r cyngor yn ceisio gostwng nifer y lleoedd gwag yn ysgolion y sir i 15% erbyn 2015.
Yn ôl yr adroddiad, y gost o ddysgu pob plentyn yn yr ysgol yw £4,669 - sy'n £1,066 yn fwy na'r gost gyfartalog o ddysgu plant yn ysgolion cynradd y sir.
Yn 2012 cyflwynodd y cyngor gynlluniau i gau ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy ac Hwytyn yn nalgylch Ysgol John Beddoes yn Sir Faesyfed a symud disgyblion i Ysgol Tre'r Clawdd, Ysgol Llanandras neu Ysgol Dyffryn Maesyfed.
Roedd y cyngor wedi dweud nad oedd y niferoedd isel yn yr ysgolion yn cynnig gwerth am arian ac y byddai cau'r tair ysgol yn arbed £232,000.
Ym mis Gorffennaf protestiodd rhieni a disgyblion yn erbyn cau ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy a Hwytyn.
Teithiodd ymgyrchwyr o'r tair ysgol ar fws o Ysgol Llanfair Llythynwg i Ysgol Tref y Clawdd er mwyn tynnu sylw at hyd y daith wyth milltir.
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2013
- 4 Hydref 2012
- 2 Hydref 2012
- 17 Gorffennaf 2012
- 8 Mawrth 2011
- 7 Rhagfyr 2010
- 18 Ionawr 2011