Anableddau dysgu: 'Ymchwil arloesol'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i gymdeithas ymateb yn well i bobl ag anableddau dysgu os ydyn nhw'n dweud eu bod wedi cael eu cam-drin, yn ôl ymchwil newydd.
Bydd yr Uned dros Ddatblygiad mewn Anableddau Deallusol Prifysgol Morgannwg yn lansio adroddiad yn y Senedd ddydd Mercher.
Yn ôl y brifysgol, hwn yw'r ymchwil cyntaf o'i fath yn y DU, gan bobl ag anableddau dysgu am bobl ag anableddau dysgu sy'n cael eu cam-drin.
Roedd dros 100 o bobl o Gymru yn rhan o'r ymchwil, oedd yn cynnwys sesiwn breswyl barodd am dridiau.
'Addysg briodol'
Cafodd yr wybodaeth ei chasglu drwy gyfrwng cyfweliadau, holiaduron a grwpiau ffocws.
Y prif argymhellion yw:
• Mae angen gwrando ar yr hyn y mae pobl ag anableddau dysgu yn ei ddweud am gam-drin. Gall hyn fod yn llafar, yn ysgrifenedig neu drwy ymddygiad;
• Dylid monitro effeithiolrwydd polisïau nawr ac yn y dyfodol i geisio ymateb i gam-drin yn rheolaidd. Dylai'r monitro gynnwys barn oedolion mewn perygl o niwed ac ystyried a ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael eu diogelu ai peidio;
• Mae angen buddsoddi adnoddau i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael addysg briodol ynglŷn â cham-drin, y gyfraith a sut i gadw'n ddiogel;
• Dylid darparu addysg am gamdrin i bobl ag anableddau dysgu a chynnwys y bobl hyn wrth ddatblygu addysg o'r fath;
• Dylai gwasanaethau fod yn wyliadwrus am arwyddion o gamdriniaeth bosib, cael strategaethau amlwg a chlir i ymateb i gam-drin, a sicrhau bod person sy'n tynnu sylw at gam-drin yn cael ei glywed, a'i gredu, a bod ymateb priodol yn sgil hyn. Mae angen i ymateb o'r fath gynnwys sicrhau bod rhywun ar gael i ddarparu cymorth parhaus i'r unigolyn;
• Mae angen datblygu gwasanaethau cymorth therapiwtig i bobl ag anableddau dysgu, un sy'n hygyrch ac yn dderbyniol. Mae angen ei ddarparu mewn modd amserol i hwyluso ymyriad cynnar hefyd;
• Dylid archwilio ymhellach y berthynas rhwng cam-drin a theimladau o hunanladdiad.
'Ymchwil sylweddol'
Dywedodd Yr Athro Ruth Northway, o Brifysgol Morgannwg: "Mae'r ymchwil yn arloesol oherwydd pobl ag anableddau dysgu sylweddolodd fod angen ymchwil yn y maes hwn.
"Y nhw oedd yr ymchwilwyr ac, yn aml, roedden nhw'n rhan o bob penderfyniad allweddol ...
"Y casgliad oedd bod pobl ag anableddau dysgu yn ymwybodol o wahanol fathau o gam-drin ond mae'n bosib nad ydyn nhw'n cael addysg ffurfiol am gam-drin a chadw'n ddiogel.
"Mae addysg o'r fath yn bwysig os yw pobl yn mynd i warchod ei hunain rhag cael eu cam-drin a'u bod yn hyderus i ddweud wrth rywun os ydyn nhw'n cael eu cam-drin."
Roedd yr ymchwil ar y cyd rhwng Pobl yn Gyntaf RhCT, New Pathways ac UDID a dechreuodd y prosiect tair blynedd ym Mai 2010 gyda chyllid y Loteri Fawr.
Straeon perthnasol
- 2 Rhagfyr 2011
- 12 Hydref 2011
- 5 Awst 2011