Dwy fenyw yn yr ysbyty wedi damwain
- Cyhoeddwyd
Cafodd dwy fenyw eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a char.
Fe ddigwyddodd tua 7:17am ddydd Mawrth yn Park Place, Treherbert.
Roedd y ddwy fenyw yn gaeth yn eu car am gyfnod a bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân ddefnyddio offer arbennig i'w torri'n rhydd.
Cafodd criwiau o Dreorci a Phontypridd eu galw i'r digwyddiad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol