Damwain farwol ar ffordd yr A5 ger Pentrefoelas
- Cyhoeddwyd
Cafodd un person ei ladd mewn gwrthdrawiad rhwng car a thancer yn Sir Conwy ddydd Mawrth.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A5 rhwng Pentrefoelas a Glasfryn tua 12:16pm.
Bu farw gyrrwr car Ford Fiesta yn y fan a'r lle.
Dyw hi ddim yn ymddangos fod gyrrwr y tancer wedi cael unrhyw anafiadau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a bu'n rhaid cau rhan o'r A5 am gyfnod gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A543 a'r B4501.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain ac yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol