Dairy Crest yn prynu cwmni yn Hendygwyn
- Published
Mae Dairy Crest wedi prynu cwmni Proper Welsh Milk aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos ddiwethaf.
Y gost oedd £325,000.
Mae 40 o o bobl yn gweithio ar y safle yn Hendygwyn ar Daf ac mae Dairy Crest wedi dweud eu bod am gefnogi ffermio llaeth yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Dairy Crest Mark Allen: "Rydym ar ben ein digon yn berchnogion newydd ar y busnes hwn sy' â dyfodol disglair ..."