Uwchgynghrair Blue Square
- Cyhoeddwyd
Wrecsam 4-1 Ebbsfleet
Y Dreigiau aeth ar y blaen wedi dwy funud a hanner oherwydd gôl Dele Adebola o'r cwrt cosbi ac wyth munud wedyn rhwydodd Brett Ormerod.
Ychydig cyn hanner awr sgoriodd Kevin Thornton.
Gadawodd Dele Adebola y cae, Robert Ogleby oedd yr eilydd a fe sgoriodd wedi 43 o funudau.
Henffordd 2- 3 Casnewydd
Roedd cyfle mawr i Henffordd wedi 42 o funudau - cig gosb i Marley Watkins ond achubodd Lenny Pidgeley.
Daeth cyfle arall o fewn munudau wedi i David Pipe lawio'r bêl. Llwyddodd Joshua O'Keefe.
Yn yr ail hanner peniodd Lee Minshull i'r Cymry cyn i Watkins daro'n ôl gyda chic gosb arall.
Ond sgoriodd Minshull ei ail gôl ac ychydig cyn diwedd y gêm rhwydodd Robbie Willmott i Gasnewydd.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2013
- 12 Chwefror 2013
- 9 Chwefror 2013
- 19 Ionawr 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol