BBC Cymru Fyw

Caerdydd 1-1 Derby

Published
image captionY sbarc: Craig Noone yn sgorio i Gaerdydd

Roedd Caerdydd yn gobeithio curo Derby am y pumed tro'n olynol gartre'.

Ond sgoriodd Conor Sammon i'r ymwelwyr wedi bron 75 o funudau oherwydd camgymeriad dychrynllyd yn amddiffyn Caerdydd.

Chwe munud yn ddiweddarach peniodd Craig Noone i Gaerdydd a fe ddaeth â'r sbarc daniodd ysbryd y Cymry.

Cyn hynny roedd Caerdydd ymhell o fod ar eu gorau ac yn nerfus ar brydiau a'r dorf yn anarferol o dawel.

Pwynt gerthfawr i Derby ond, yn sicr, all y Cymry ddim fforddio colli mwy o bwyntiau.

Cyn y gêm roedd tîm Malky Mackay wedi ennill 40 o'u 70 o bwyntiau gartre' ac wedi ildio dim ond 11 o goliau yn eu 16 gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Straeon perthnasol

  • Huddersfield 0-0 Caerdydd