Abertawe i gynnig am Ddinas Diwylliant?
- Cyhoeddwyd

Mae'r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi bod 11 o ddinasoedd, trefi ac ardaloedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2017.
Ymhlith yr 11 mae Bae Abertawe - sy'n cynnwys ardaloedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot.
Y gweddill yw Aberdeen, Caer, Dundee, Dwyrain Caint, Hastings a Bexhill on Sea, Hull, Caerlŷr, Plymouth, Portsmouth a Southampton, a Southend on Sea.
Dywedodd y gweinidog Ed Vaizey: "Mae hyn yn newyddion gwych, yn dangos faint o ddiddordeb sydd yn y gystadleuaeth hon.
"Bydd yr enillydd yn elwa'n economaidd ac yn gymdeithasol."
Mae angen i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn Ebrill 30.
Ym Mehefin bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi.
Dywedodd Phil Redmond, cadeirydd y panel ymgynghorol annibynnol: "Bydd ennill y gystadleuaeth yn golygu newidiadau yn y ddinas neu'r dref dan sylw ac rwy'n edrych ymlaen at y cynigion."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Rydyn ni wedi mynegi diddordeb ac yn anelu at gyflwyno cynnig posib' erbyn diwedd Ebrill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd24 Awst 2010