Elw cwmni yswiriant Admiral yn codi 15% i £345 miliwn
- Published
Mae cwmni yswiriant Admiral, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi cynnydd o 15% mewn elw.
Mae'r ffigurau'n dangos elw cyn-treth o £345 miliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2012, o'i gymharu â £299 miliwn ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Bydd 6,500 aelod o staff nawr yn cael cyfranddaliadau gwerth £3,000 am ddim fel rhan o gynllun arbennig.
Yn ôl Alastair Lyons, cadeirydd y grŵp - sydd hefyd â swyddfeydd yn Abertawe a Chasnewydd - dyma "flwyddyn fwya' llwyddiannus" y cwmni hyd yma.
Ychwanegodd: "Wrth edrych yn ôl dros yr 20 mlynedd diwetha', hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi'n helpu i greu busnes mor gadarn."
Roedd trosiant y grŵp wedi codi 1% i £2.22 biliwn.
Ond yn 2011, dywedodd y cwmni fod eu trosiant wedi cynyddu 38% i £2.19 biliwn, tra bod nifer y cwsmeriaid hefyd wedi codi 22% i 3.36 miliwn.
Mae Admiral yn berchen ar nifer o gwmnïau eraill fell Confused.com, Elephant.co.uk a Diamond.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 7 Mawrth 2012
- Published
- 7 Ionawr 2011