Siopau gwelyau: Achub swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr wedi gwerthu naw siop Dreams yng Nghymru i gwmni o dan reolaeth Sun Capital Partners.
Ym Mhen-y-bont, Caerdydd (Dwyrain), Caerdydd (Heol Penarth), Cwmbrân, Llantrisant, Merthyr, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe mae'r siopau.
Bydd y gweddill ar agor nes bod y gweinyddwyr yn dod o hyd i brynwyr: Caerdydd (Gorllewin) lle mae tri'n cael eu cyflogi, Caerfyrddin lle mae pedwar, Llanelli lle mae pump. Llandudno lle mae pedwar, a Wrecsam lle mae tri.
Yn gyffredinol, cafodd mwy na 1,600 o swyddi eu hachub ar ôl i 171 o siopau gael eu prynu.
Ond mae 400 o swyddi yn y fantol tra bod ymdrechion yn parhau i geisio dod o hyd i brynwr ar gyfer 95 o siopau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol