Ffrae dros gartre' plentyndod
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog canolfan farchogaeth ger Caernarfon wedi beirniadu tirfeddianwr am ei hel o'r fferm lle'r oedd hi wedi byw ers yn blentyn.
Mae Helen Davies, sy'n diodde' o anabledd, yn dweud fod stad Glynllifon wedi ymddwyn yn "ansensitif".
Ond mae'r asiant ar ran y stad yn gwadu hynny, gan ddweud fod Mrs Davies wedi torri amodau ei thenantiaeth.
Ers 40 mlynedd mae Ms Davies wedi bod yn rhedeg canolfan farchogaeth ar fferm Gadlys, gyda'i gŵr Arfon Davies yn ffermio gwartheg llaeth a chig eidion.
Ond ers tro bu'r pâr mewn ffrae gyfreithiol â pherchnogion y fferm, stad Glynllifon.
Mae Mrs Davies, sy'n anabl yn dweud fod hynny wedi cael effaith ar ei hiechyd.
'Poeni'
"Mae wedi effeithio'n aruthrol," meddai, "dwi wedi bod i mewn ac allan o'r ysbyty lawer gwaith a chymryd mwy o dabledi.
"Dwi wedi poeni am hyn, os fydda' gen i do uwch fy mhen. Mae wedi bod yn ofnadwy."
Bellach mae'r cwpl wedi eu hel o'r fferm ac mae mwyafrif eu heiddo mewn cae gerllaw.
Ar ôl cyfnod o fyw mewn carafán, maen nhw bellach wedi cael llety gan y cyngor.
Ond gyda'r gwartheg godro a nifer o'r ceffylau bellach dan ofal ffermwyr eraill dros dro, mae eu bywoliaeth wedi diflannu.
Dywedodd Arfon Davies: "Wel mae'n amhosib. Mae'r busnes wedi chwalu rwan - y ddau fusnes. Y busnes ceffylau a gwartheg godro."
Mae asiant stad Glynllifon, cwmni Carter Jonas, yn dweud fod Mr a Mrs Davies wedi torri sawl amod o'u tenantiaeth.
Penderfynodd cymodwr annibynnol eu bod wedi cael cyfle digonol i gywiro pethau ond nad oedden nhw wedi gwneud hynny.
O ganlyniad cafwyd gorchymyn llys yn eu gorfodi i adael. Mae'r pâr yn cydnabod iddyn nhw gael problemau gyda'r tanc slyri ond maen nhw'n honni iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i wella'r sefyllfa.
Mae'r cwpl yn gobeithio dod o hyd i fferm arall. Ond ar hyn o bryd does dim sicrwydd pryd na sut fydd hynny'n digwydd.