Cyflwyno cynllun plismona'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Winston Roddick QCFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Winston Roddick yn cyflwyno'i gynllun plismona i Banel Heddlu a Throsedd y rhanbarth

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cyflwyno'i gynllun plismon cyntaf i'r panel sy'n goruchwylio'r gwasanaeth.

Mae Winston Roddick yn cyflwyno drafft cyntaf y cynllun i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yng Nghonwy ddydd Iau.

Bwriad Mr Roddick wedyn yw clywed barn y panel ac eraill am y cynllun cyn iddo gael ei gwblhau.

Wedi i hynny ddigwydd fe fydd Mr Roddick hefyd yn gofyn am farn ar weithredu'r cynllun er mwyn parhau i ddysgu oddi wrth ymateb y rhai sy'n derbyn gwasanaethau'r heddlu yng ngogledd Cymru.

Dyma yw'r cynllun cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru, a chyn mynd ati i'w lunio, gofynnodd y Comisiynydd am farn y cyhoedd am blismona yn y rhanbarth.

'Profiadau pobl'

Pan alwodd am ymateb, ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd Mr Roddick ei fod am glywed gan y cyhoedd, busnesau a'r sectorau preifat a gwirfoddol am eu profiadau nhw.

Dywedodd: "Mae hi'n iawn fod profiadau pobl yn dod yn rhan ganolog o ddatblygu cynllun plismona gogledd Cymru.

"Bydd y farn yn cael ei adlewyrchu yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru."