Bonnie yn Eurovision
- Cyhoeddwyd

Y Gymraes Bonnie Tyler fydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Eurovision eleni.
Fe fydd Bonnie, o Sgiwen ger Castell-nedd, yn canu cân o'r enw Believe in Me ym Malmo yn Sweden ym mis Mai.
Dywedodd y gantores, sydd fwyaf adnabyddus am y gân Total Eclipse of The Heart, ei fod "yn fraint" i gael ei gofyn i gynrychioli'r DU yn y gystadleuaeth sy'n cael ei llwyfannu am y 58fed tro eleni.
Bydd hi'n perfformio'r gân Believe in Me o flaen 120 miliwn o wylwyr yn Malmo, Sweden ar Fai 18.
Mary Hopkin
"Rwy'n addo gwneud fy ngorau glas," dywedodd mewn datganiad.
"Mae'n fraint i gynrychioli'r DU gyda chân mor wych."
Cafodd y gân ei chyfansoddi gan Lauren Christy a Christopher Braide o Brydain a Desmond Child o America.
"Mae Bonnie Tyler yn seren fyd enwog gyda llais anhygoel," meddai Katie Taylor, Pennaeth adran Adloniant a Chelfyddydau'r BBC.
Cyrhaeddodd cân gyntaf Bonnie Tyler, Lost in France, rhif 9 yn siartiau'r DU yn 1976 ac fe gafodd llwyddiant gyda'r gân It's a Heartache flwyddyn yn ddiweddarach.
Aeth Total Eclipse of The Heart i frig y siartiau ym Mhrydain ym 1983 a chyrhaeddodd Holding Out for a Hero rhif 2 flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae Tyler yn gobeithio bod yr ail Gymraes i ennill cystadleuaeth Eurovision.
Bu Nicky Stevens o Gaerfyrddin yn rhan o'r grŵp Brotherhood of Man wnaeth ennill y gystadleuaeth ym 1976.
Fe ddaeth y gantores o Bontardawe, Mary Hopkin, yn ail gyda'r gân Those Were the Days ym 1970.
Engelbert Humperdinck gynrychiolodd y DU y llynedd, gan ddod yn olaf ond un.