Y Manics i chwarae mewn gŵyl ym Mhortmeirion
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y Manic Street Preachers yn perfformio mewn gŵyl gerddoriaeth ym Mhortmeirion eleni.
Eu perfformiad nhw yng Ngŵyl Rhif Chwech ydi eu hunig gyngerdd nhw ym Mhrydain eleni ar hyn o bryd.
Eisoes mae'r trefnwyr wedi datgan eu bwriad i gynnal yr ŵyl am y ddwy flynedd nesaf.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf ym Medi 2012 ac fe enillodd wobr Gŵyl Fechan Orau cylchgrawn yr NME yn gynharach ym mis Mawrth.
Mae'r ŵyl yn cynnwys nifer o grwpiau, ond hefyd celfyddydau eraill gydag awduron yn cynnal sesiynau holi ac ateb am eu llyfrau newydd.
Bydd y canwr James Blake, yr ysgrifenwyr, Jan Morris a Caitlin Moran, a'r bardd John Cooper Clarke ymysg y rheiny fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni.
Y llynedd bu rhai pobl yn yr ardal yn cwyno wedi'r ŵyl bod sŵn y gerddoriaeth i'w glywed yn hwyr y nos, ond mae'r trefnwyr eisoes wedi cyhoeddi eu bod am gymryd camau i sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd yn 2013.
Chafodd trigolion sy'n byw yn agos i'r safle ddim eu haflonyddu ond clywyd sŵn y gerddoriaeth gan bobl sy'n byw ar draws aber Dwyryd yn Nhalsarnau.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2013
- 21 Hydref 2012