Siop adrannol fwya: Bonws 17% o gyflog
- Cyhoeddwyd

John Lewis Caerdydd yw siop John Lewis fwyaf ond un y tu allan i Lundain
Bydd staff siopau John Lewis a Waitrose yn cael taliadau bonws gwerth 17% o'u cyflog, sy'n gyfystyr â naw wythnos o waith.
Daw hyn ar ôl i'r grŵp gyhoeddi cynnydd o 15.8% mewn elw blynyddol, i £409.6 miliwn cyn treth.
John Lewis yng Nghaerdydd yw siop adrannol fwyaf Cymru - siop fwyaf ond un y cwmni y tu allan i Lundain - ac mae 700 o staff yn gweithio yno.
Dywedodd Chris Earnshaw, rheolwr gyfarwyddwr John Lewis Caerdydd: "Roedd 2012 yn flwyddyn a welodd gynnydd mewn gwerthiant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
"Mae'r canlyniadau yn dyst i waith caled a gwasanaeth ein Partneriaid".
Straeon perthnasol
- 24 Medi 2009
- 3 Ionawr 2008
- 26 Tachwedd 2003
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol