Pum pwynt o gosb i Gymry Llundain
- Published
Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi cael cosb o bum pwynt a dirwy o £15,000 am ddefnyddio chwaraewr nad oedd yn gymwys yn Uwchgynghrair Aviva.
Daw'r gosb yn dilyn gwrandawiad o banel rheolau Uwchgynghrair Rygbi Lloegr ddydd Mawrth, gydag Undeb Rygbi Lloegr yn cyhoeddi'r canlyniad.
Mae'r gosb yn golygu bod Cymry Llundain yn disgyn i waelod yr Uwchgynghrair ddau bwynt islaw Sale Sharks, ac maen nhw hefyd wedi cael eu cosbi pum pwynt ychwanegol wedi ei ohirio tan ddiwedd y tymor.
Talcen caled
Y chwaraewr dan sylw yw'r mewnwr Tyson Keats a ymddangosodd mewn 10 gêm y tymor hwn pan nad oedd wedi ael ei gofrestru gydag Undeb Rygbi Lloegr.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod y clwb yn wynebu talcen caled i osgoi disgyn o'r Uwchgynghrair yn eu tymor cyntaf yn yr adran.
Dim ond pum gêm sydd yn weddill - oddi cartref yn erbyn Caerloyw, Caerfaddon a'r Gwyddelod yn Llundain a gartref yn erbyn Northampton a Chaerwrangon.
Roedd yr achos yn ymwneud â fisa Keats, ac mae gan y clwb bythefnos i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Achos arall
Mae cyn rheolwr rygbi Clwb Cymry Llundain, Mike Scott, yn destun gwrandawiad disgyblu ar wahân yn ymwneud a chofrestru Keats.
Cafodd Scott ei gyhuddo o "ymddygiad sy'n niweidiol i fuddiannau'r Undeb neu'r gêm" ac fe fydd yr achos yn cael ei glywed maes o law.
Y clwb ei hun ddaeth â'r mater i sylw'r Undeb yn dilyn ymchwiliad mewnol fis diwethaf. Roedd y clwb am bwysleisio nad oedd bai o gwbl ar Keats yn yr holl fater.
Ymunodd Keats, o Seland Newydd, â Chymry Llundain o glwb Aironi yn Yr Eidal, a bu hefyd yn chwarae Super Rugby gyda'r Crusaders a'r Hurricanes cyn troi at Ewrop.