Ymchwiliad i dân ym Mrynmawr
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau i dân mewn tŷ ym Mrynmawr, Blaenau Gwent.
Cafodd diffoddwyr eu galw i'r eiddo ar Stryd y Brenin am tua 6:09pm nos Iau.
Aeth tair injan dân o Frynmawr, Glyn Ebwy a Blaena i'r safle, a bu'r criwiau yn brysur yn ceisio diffodd y tân am dros awr.
Er mwyn gwneud hynny, bu'n rhaid i chwech o ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig a chamerâu delweddu thermal.
Does dim adroddiad bod unrhyw un wedi anafu yn y digwyddiad.