Pryder am ddyfodol Cymdeithas Cyfieithwyr
- Cyhoeddwyd

Mae yna bryder ynglŷn â dyfodol ariannol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mewn e-bost at yr aelodau, sydd wedi dod i law y Post Cyntaf, BBC Cymru, mae'r cadeirydd Berwyn Prys Jones yn rhybuddio y gallai'r gymdeithas orfod diswyddo rhai neu'r cyfan o'i staff.
Dywedodd Mr Jones nad oedd sicrwydd ynghylch faint o arian y byddai'r mudiad yn ei dderbyn o fis Ebrill ymlaen.
Mae'r Gymdeithas eisoes wedi cyhoeddi na fydd arholiadau aelodaeth yn cael eu cynnal y mis nesa.
'Goblygiadau difrifol'
Mae'r e-bost yn cyfeirio at gyfarfod a gynhaliwyd ddiwedd Ionawr rhwng cynrychiolwyr y Gymdeithas a'r Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws i drafod ei dymuniad hi i'r Gymdeithas fod yn gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant cyfieithu.
Mewn cyfarfod diweddarach rhoddwyd llythyr i Brif Weithredwr y Gymdeithas yn datgan fod y Comisiynydd wedi awgrymu yn y cyfarfod cyntaf na fyddai grant ar gael o Fawrth 2016 ymlaen.
Yn yr e-bost at yr aelodau dywed y Cadeirydd fod y tri oedd yn y cyfarfod gwreiddiol yn gwbwl bendant na ddywedwyd gair am ddiddymu'r grant.
Mae Mr Jones wedi anfon llythyr at y Comisiynydd yn mynegi pryder ynglŷn â'r sefyllfa a'r hyn mae'n ei alw'n "goblygiadau difrifol o ran dyfodol y gymdeithas".
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg na fyddai'n briodol gwneud sylw gan fod trafodaethau'n parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013