Tân: Naw yn gadael eu cartrefi
- Published
Bu'n rhaid i naw o bobl adael eu cartrefi ar Ynys Môn yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau fore Gwener.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bu'n rhaid i'r naw adael ei fflatiau yn Llanfairpwllgwyngyll toc cyn 2am ddydd Gwener.
Fe wnaeth y tân ddifrodi cegin un o'r fflatiau a'r gred yw mai nam trydanol oedd ar fai.
Ni Chafodd unrhyw un ei anafu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol