Newid hinsawdd: Gwobr i Siwan
- Cyhoeddwyd

Mae'r Athro Siwan Davies wedi ennill gwobr am ei gwaith ymchwil i newid hinsawdd dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Hi fydd yn derbyn Gwobr Gronfa Lyell.
Bydd yr Athro Davies o Adran Ddaearyddiaeth, Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, yn derbyn y wobr yn ogystal â siec o £500 yn ystod Diwrnod Llywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain ym mis Mehefin.
Dywedodd Yr Athro Davies: ''Rwyf wrth fy modd o dderbyn y wobr hon.
"Mae'n anrhydedd o'r mwyaf ac rwy'n falch i dderbyn cydnabyddiaeth.
"Ond hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â fy nghydweithwyr rhyngwladol am eu cyfraniadau gwerthfawr.''
Newid
Prif ffocws ymchwil yr Athro Davies yw ceisio darganfod pam bod newid mor ddramatig wedi bod yn yr hinsawdd dros 100,000 o flynyddoedd - hyd at 16°c o fewn degawdau.
Mae hi'n archwilio'r darnau o ludw folcanig sydd wedi'u dal mewn haenau iâ er mwyn dehongli ymateb y môr a'r atmosffer yn ystod y digwyddiadau newid hinsawdd cyflym.
Newydd gwblhau prosiect tair blynedd mae hi, un ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol fel y gallai astudio creiddiau iâ ymhell o dan wyneb haen iâ yr Ynys Las.
Cafodd ei gwaith ei gyhoeddi yn Nature, cyfnodolyn gwyddonol o bwys ac fe'i gwahoddwyd i gyflwyno darlith mewn cynhadledd yn Boston yn America yn Chwefror.
Ar hyn o bryd, mae hi'n arwain prosiect ymchwil gwerth £1.2 miliwn o'r enw TRACE wedi ei ariannu gan un o grantiau cychwynnol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.
Mae'r grant yn cael ei roi i academwyr addawol yn Ewrop â'r potensial i fod yn arweinwyr ymchwil o'r radd flaenaf.