Dinas diwylliant: Cefnogi Caer?
- Published
Mae'n bosib y bydd un o sefydliadau twristiaeth y gogledd yn cefnogi cais o Loegr yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2017.
Dywedodd pennaeth twristiaeth y byddai cais dinas Caer yn arwain at fanteision i fusnesau yn y gogledd.
Ond byddai hynny'n golygu cystadlu yn erbyn Bae Abertawe, sydd hefyd wedi mynegi diddordeb.
Mae'r cais hwnnw yn cynnwys ardaloedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot.
Dywedodd Esther Roberts, o Dwristiaeth Gogledd Cymru, y bydden nhw'n cefnogi Caer os bydd ar y rhestr fer.
"Byddwn yn cefnogi'r cais yn gryf os yw hynny'n digwydd.
"Byddai'n beth da i'r gogledd. Rydym am annog pobl sy'n mynd i Gaer i groesi'r ffin ac ymweld â'r gogledd ddwyrain a lleoedd fel Eryri ac Ynys Môn."
"Ond byddai'n dda o safbwynt bod un ai Caer neu Bae Abertawe yn llwyddo i ennill."
Mis Tachwedd
Mae disgwyl i Gyngor Dinas Caer gyflwyno cais mwy manwl cyn hir.
Ym Mehefin bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi a'r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi'r enillydd erbyn diwedd Tachwedd.
Mae 11 o ddinasoedd, trefi ac ardaloedd wedi mynegi diddordeb yn y gystadleuaeth.
Y gweddill yw Aberdeen, Dundee, Dwyrain Caint, Hastings a Bexhill on Sea, Hull, Caerlŷr, Plymouth, Portsmouth a Southampton, a Southend on Sea.
Dywedodd y gweinidog Ed Vaizey: "Bydd yr enillydd yn elwa'n economaidd ac yn gymdeithasol."
Mae llefarydd ar ran Cyngor Abertawe wedi dweud: "Rydyn ni wedi mynegi diddordeb ac yn anelu at gyflwyno cynnig posib' erbyn diwedd Ebrill."
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mawrth 2013
- Published
- 13 Medi 2012
- Published
- 24 Awst 2010