BBC Cymru Fyw

Gwenwyno nwy: Tri yn yr ysbyty

Published
image copyrightArall
image captionMae larymau carbon monocsid ar gael
Mae tri yn yr ysbyty oherwydd sgileffeithiau nwy carbon monocsid.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod dyn a menyw oedrannus a llanc 16 oed yn yr ysbyty oherwydd nam ar foeler mewn ffermdy yn Nhreforys, Abertawe.
Cafodd y tri driniaeth cyn bod criwiau ambiwlans yn cyrraedd.
Bu farw dwy gath.
Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi cael galwad am 5:30am ac na ddylai'r tri fynd yn ôl i'r ffermdy nes yr oedd y cyfarpar wedi ei wirio.
Dywedodd y swyddog Tân Alan Sherman: "Mae'n bwysig gwirio cyfarpar yn rheolaidd ... gall cyfarpar diffygiol arwain at ganlyniadau difrifol iawn."