Cyhoeddi enw prif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys
- Cyhoeddwyd

Simon Prince fydd prif gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys.
Y Comisiynydd Heddlu Christopher Salmon oedd wedi ei benodi ac mae'r Panel Heddlu a Throseddau newydd gadarnhau hyn.
Hwn yw'r tro cynta' i Gomisiynydd Heddlu benodi prif gwnstabl.
Bydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, sy'n 47 oed, yn dechrau ei ddyletswyddau newydd ar Ebrill 1.
Dywedodd mai'r cyhoedd fyddai ei flaenoriaeth ac y byddai'n sicrhau bod staff yn darparu gwasanaeth llinell flaen ragorol.
"Bydda' i'n anelu at adeiladu ar y gwaith gwych sy' wedi ei wneud yn barod - a gwella lefelau datrys troseddau," meddai.
'Ffydd'
"Ond nid mater o ystadegau yn unig yw hyn ond mater o wasanaethau hygyrch a ffydd y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu.
"Dwi'n edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion a gwrando ar eu pryderon.
"Yn benodol, mae daearyddiaeth ardal yr heddlu'n golygu heriau y bydda' i'n ceisio eu deall fel bod modd cwrdd ag anghenion pawb, gan gynnwys rhai sy'n byw mewn cymunedau mwy ynysig."
Dywedodd y byddai'n anelu at gael gwared ar wastraff, lleihau biwrocratiaeth a sicrhau bod "pob ceiniog" fyddai'n cael ei gwario'n arwain at wasanaeth rhagorol i'r cyhoedd.
Cafodd comisiynwyr heddlu eu hethol yn Nhachwedd a nhw'n sy'n gosod blaenoriaethau'r heddlu, yn cadw golwg ar gyllideb a phenodi prif gwnstabl.
Bydd Mr Prince, sy'n briod a chanddo ferch ac yn byw yn ne Powys, yn lle Jackie Roberts gafodd ei phenodi ym Mehefin y llynedd.
Hi oedd y fenyw gynta' yn y swydd.