Ymweld â safle parlwr godro enfawr ger Y Trallwng
- Published
Bydd aelodau panel ymchwiliad cyhoeddus i godi parlwr godro anferth ger Y Trallwng yn ymweld â phrif safleoedd yr ardal yn ddiweddarach.
Mae Fraser Jones, o bentref Leighton ger Y Trallwng, eisiau codi estyniad i'w fferm fydd yn gartref i 1,000 o wartheg.
Gwrthododd Cyngor Powys ei gais cynllunio ym mis Hydref y llynedd, ac fe alwyd y cais i mewn gan Lywodraeth Cymru gan arwain at yr ymchwiliad.
Mae pentrefwyr wedi cwyno am yr arogl sy'n dod o'r 300 o wartheg sydd eisoes ar y safle, gan nodi bod y safle'n agos i gartrefi ac ysgol leol.
Bu cwynion hefyd am y sŵn, pryfaid, llygredd, mwy o draffig, ynghyd â maint ac effaith weledol y datblygiad.
Dywed Mr Jones ei fod wedi ceisio'n galed i ymateb i'r holl bryderon, ac i'w lliniaru.
Castell
Ond er gwaethaf hyn, mae grŵp gweithredu wedi ei ffurfio yn lleol i wrthwynebu'r datblygiad, ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wedi mynegi pryder am yr effaith weledol ar Gastell Powys sydd gerllaw.
Cafodd y cais ei ganiatáu'n amodol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Powys yn Nhachwedd 2011, yn dibynnu ar adroddiad am "rai materion".
Ond cafodd y mater ei drafod eto ym mis Hydref 2012 yn dilyn newidiadau i gyfansoddiad ac aelodaeth pwyllgorau'r cyngor, ac fe'i gwrthodwyd.
Gorchmynnodd Llywodraeth Cymru y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus ym mis Ionawr eleni.
Bydd y panel yn ymweld â nifer o safleoedd ddydd Llun, cyn i'r gwrandawiad ddod i ben ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Mawrth 2013
- Published
- 23 Hydref 2012
- Published
- 25 Ionawr 2012
- Published
- 2 Tachwedd 2011
- Published
- 25 Awst 2010
- Published
- 26 Awst 2010
- Published
- 28 Chwefror 2011