Seintiau, Bangor a Phort Talbot yn ennill
- Cyhoeddwyd

Roedd timau hanner uchaf Uwchgynghrair Cymru yn chwarae nos Wener, ac fe ddaeth buddugoliaethau i Fangor, Y Seintiau Newydd a Phort Talbot.
Mae'r Seintiau bellach 11 pwynt ar y baeln ar frig y tabl gan i Airbus, oedd yn ail, golli.
Bangor 2-0 Airbus
Ar ôl curo Airbus yng Nghwpan Cymru y Sadwrn diwethaf mewn gêm agos, roedd disgwyl rhywbeth tebyg yn Stadiwm Book People nos Wener.
Dyna gafwyd, ac roedd y gêm yn gyfartal ddi-sgor wedi 87 o funudau.
Ond yna daeth dwy gôl hwyr gan Gary O'Toole a Robbie Booth i gipio'r pwyntiau i Fangor, a'u codi i'r ail safle yn y tabl ar draul yr ymwelwyr.
Y Seintiau Newydd 3-0 Prestatyn
Fe gafodd y pencampwyr noson dipyn haws wrth groesawu Prestatyn i Groesoswallt.
Sgoriodd Mike Wilde wedi dim ond tri munud ac fe gafodd un arall wedi 33 munud i sicrhau mantais o ddwy gôl ar yr egwyl.
Ychwanegodd Matty Williams un arall yn yr ail hanner i roi buddugoliaeth hawdd i'r Seintiau.
Port Talbot 1-0 Caerfyrddin
Roedd un gôl yn ddigon i Bort Talbot wrth groesawu Caerfyrddin.
Martin Rose a'i cafodd hi wedi 35 munud i godi Port Talbot i'r pedwerydd safle.