Coffáu sefydlu mudiad iaith
- Cyhoeddwyd

Mae plac wedi ei ddadorchuddio er mwyn coffáu sefydlu mudiad iaith 50 mlynedd yn ôl.
Roedd y seremoni am 11am yn yr Institiwt ym Mhontarddulais a'r siaradwyr oedd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, un o sylfaenwyr y mudiad, Gareth Miles, a'r Cynghorydd Eifion Davies.
Yno hefyd roedd Heulwen Beasley, aelod o'r teulu enwog o Langennech.
Cafodd Cymdeithas yr Iaith ei sefydlu yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais yn Awst 1962 wedi araith Tynged yr Iaith rybuddiodd y byddai'r iaith Gymraeg yn marw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif os na fyddai dulliau chwyldroadol.
Dywedodd Mr Farrar: "Mae 50 mlynedd o ymgyrchu wedi arwain at ryw fath o ddyfodol i'r iaith ond yr her yw sicrhau ei bod hi'n iaith fyw yn ein cymunedau ni.
"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad wedi dangos argyfwng yr iaith."
Y dadorchuddio oedd yr ola' mewn cyfres o ddigwyddiadau i goffáu 50 mlynedd er sefydlu'r mudiad.
Straeon perthnasol
- 7 Mawrth 2013
- 12 Chwefror 2013
- 13 Ionawr 2013