Dartford 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Dartford 2-1 Wrecsam
Mae rhediad diguro'r Dreigiau wedi dod i ben ond maen nhw'n dal ar frig y tabl.
Roedden nhw wedi teithio i Gaint heb golli 13 o gemau.
Cafodd y gêm hon ei gohirio nos Wener am fod y cae o dan ddŵr.
Aeth y Cymry ar y blaen pan sgoriodd Danny Wright o 15 llath, ei 16fed gôl y tymor hwn.
Roedd perfformiad Dartford yn well yn yr ail hanner a sgoriodd yr eilydd Jack Evans pan oedd 16 munud yn weddill.
Peniad Elliot Bradbrook i'r tîm cartre yn ystod amser ychwanegol oedd yr hoelen yn yr arch. Siom fawr i Wrecsam.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2013
- 12 Chwefror 2013
- 9 Chwefror 2013
- 19 Ionawr 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol