Ymchwiliad i ddamwain angheuol yn Sir Gaerfyrddin

Mae un ddynes wedi marw a chwech o bobl wedi'u hanafu - un yn ddifrifol - wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng y Peugeot 206 a'r Kia Sportage ar ffordd yr A477 rhwng Rhos-goch a Llanteg am 5:25pm ddydd Sul.

Bu farw dynes 22 oed, oedd yn eistedd yn sedd flaen y Peugeot, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty yn Abertawe.

Mae teithiwr arall yn yr un cerbyd mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod bywydau'r teithwyr eraill mewn perygl.

Roedd parafeddygon a hofrennydd yr heddlu wedi cludo'r saith i ysbytai Treforys yn Abertawe a Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.