Lluniau dramatig ar y we o ddringwr yn disgyn yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae delweddau yn dangos dyn yn disgyn 100 troedfedd (30 metr) i lawr llethr yn Eryri wedi cael eu cyhoeddi ar y we.
Roedd y dringwr a'r ymgynghorydd diogelwch Mark Roberts, 47 oed, yn gwisgo camera ar ei ben pan gollodd ei afael wrth ddefnyddio ceibiau eira a llithro ar gyflymder dros greigiau ac eira.
"Mae rhywun yn ceisio peidio mynd i banig a gobeithio am lwc," meddai Mr Roberts ar wefan Cyngor Mynyddwyr Prydain, sydd wedi cyhoeddi'r ffilm.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau i'w bigwrn ond doedd o ddim wedi'i anafu'n ddifrifol.
Llithro
Fe ddigwyddodd tra roedd Mr Roberts yn dringo ger Crib Goch gyda dau ddringwr arall ym mis Chwefror.
Wrth hel atgofion am y digwyddiad, dywedodd: "Unwaith yr oeddwn i wedi colli'r ddwy gaib, roedd yn fater o ddefnyddio fy mreichiau, dwylo, coesau a thraed yn yr eira i geisio arafu fy hun.
"Yn ffodus fe wnes i lithro ar greigiau i fy chwith, wnaeth fy arafu tipyn ond a achosodd i mi droelli, ond roeddwn i'n dal i allu edrych am gyfleoedd i geisio stopio.
"Daeth i ben gyda chwymp ar ddarn o ysgafell neu dwll, ac roedd fy mag a fy esgidiau'n ddigon i fy stopio.
"Roeddwn i wedi cael dipyn o sioc ac roeddwn i'n gwybod fod 'na rhywfaint o niwed i fy mhigyrnau, oedd yn brifo tipyn wrth i mi symud."
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd o Awyrlu'r Fali ar Ynys Môn eu galw i helpu wedi'r digwyddiad.
Aethpwyd â Mr Roberts mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Dywedodd aelod o'r tîm achub mynydd, Elfyn Jones: "Mae damweiniau fel hyn yn digwydd ond roedd gan Mark offer da, ac roedd yn gwisgo helmed. Mae'n siŵr bod hynny wedi achub ei fywyd."