JCB: Cytundeb gwerth £40m yn 'diogelu' swyddi yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Bydd y cytundeb gyda Brasil yn diogelu swyddi yn Wrecsam
Mae JCB wedi dweud bod swyddi yn eu ffatrïoedd yn Wrecsam a sir Stafford yn ddiogel ar ôl i'r cwmni arwyddo cytundeb gwerth £40 miliwn.
Mae llywodraeth Brasil wedi archebu mwy na 1,000 o beiriannau cloddio.
Bydd y 350 o weithwyr yn y ffatri yn Wrecsam yn gwneud echelau ar gyfer y peiriannau cloddio.
Bydd y peiriannau yn cael eu defnyddio i wella ffyrdd gwledig er mwyn sicrhau bod bwyd yn cyrraedd marchnadoedd Brasil yn gyflymach.
Cafodd nifer tebyg o beiriannau eu gwerthu i Lywodraeth Brasil y llynedd.
Straeon perthnasol
- 24 Mai 2012
- 5 Mawrth 2012
- 7 Rhagfyr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol